Senedd Cymru | Welsh Parliament
Y Pwyllgor Cyllid | Finance Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27 | Welsh Government Draft Budget 2026-27
Ymateb gan Cyngor Gwynedd, | Evidence from Cyngor Gwynedd,
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Yn dilyn pwysau gan nifer o awdurdodau gweledig oedd yn gweld y cynnydd isaf yn eu Cyllid Allanol Cyfun, gosodwyd llawr o 3.8% erbyn y setliad terfynol. Derbyniodd 9 awdurdod lleol gynnydd o 3.8%, gan gynnwys Cyngor Gwynedd. Mae hynny’n cymharu â chyfartaledd Cymru o 4.5%. Rydym yn gweld y gwahaniaeth rhwng setliadau awdurdodau gwledig a’r rhai trefol yn cynyddu.
Roedd defnyddio’r llawr yma yn gymorth i’r awdurdodau lleol, fel yr oedd derbyn grantiau yn agos i ddiwedd 2024/25 i gynorthwyo gyda phwysau mewn meysydd penodol. Tra fod hynny i’w groesawu, nid yw’n caniatáu i awdurdodau lleol gynllunio, yn sicr ddim tu hwnt i un flwyddyn ar y tro. Mae setliadau mwy nag un flwyddyn yn ddatblygiad dylid symud tuag ato.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Eleni, mae diffyg eglurder o gyfeiriad y Llywodraeth yn golygu fod cynllunio ymlaen llaw ar sail y setliad tebygol hyd yn oed yn anoddach ar gyfer 2026/27 na’r arfer. Ar un llaw rydym yn clywed fod ychwanegiad i’r gyllideb sector gyhoeddus gan lywodraeth San Steffan y llynedd yn gam cyntaf tuag at gywiro effaith diffyg buddsoddiad dros ddegawd a mwy. Ar y llaw arall, rydym yn cael ein rhybuddio na all y Llywodraeth yng Nghaerdydd gynyddu gwariant cyhoeddus o dan yr amgylchiadau economaidd presennol.
Rhagrybuddir ni hefyd fod posibilrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod yr hyn a gyfeirir ato fel “rollover budget” ar gyfer 26/27, sef parhau gyda chyllideb eleni gydag ychwanegiad bychan tuag at chwyddiant yn unig a dim ystyriaeth/cydnabyddiaeth tuag at y costau sylweddol eraill sy’n wynebu Llywodraeth Leol. Amcangyfrifir y byddai’r ychwanegiad cyfartalog cenedlaethol hwnnw oddeutu 2% (tebygol felly o fod oddeutu 1.5% i Wynedd o dan y fformiwla dyrannu) ac felly byddai hynny’n doriad cyllideb mewn termau real oni bai fod graddfa chwyddiant yn gostwng yn sydyn cyn Ebrill 2026, o gofio fod graddfa chwyddiant heddiw yn 3.8%. Byddai cynnydd o 1.5% ar ein cyllideb gan Lywodraeth Cymru yn gadael bwlch ariannol o £14.9M ar gyfer 2026/27.
Rydym yn deall byddai ‘rollover budget’ yn gadael oddeutu £400m heb ddyrannu gan Llywodraeth Cymru, ond na fyddai penderfyniad ar hwn tan ar ôl etholiad Senedd Cymru fis Mai. Byddai hyn ar ôl i gynghorau osod cyllidebau felly yn llawer rhy hwyr i warchod gwasanaethau.
Nid oes sicrwydd y bydd peth o’r £400m yn dod i lywodraeth leol, os o gwbl. Golyga hyn bydd angen cynyddu’r dreth cyngor i drigolion Gwynedd oddeutu 14% i gau y bwlch a gosod cyllideb gytbwys – nid oes arbedion effeithlonrwydd ar ôl i’w cyflawni bellach, felly byddai lleihau ein gwariant fel nad oes angen cynyddu’r dreth cymaint a 14% yn golygu torri gwasanaethau.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Byddai setliad rhesymol i awdurdodau lleol sy’n adlewyrchu’r pwysau sydd arnynt, fel sydd wedi cael ei amlygu gan y WLGA yn eu harolwg blynyddol o bwysau ar gynghorau, yn golygu fod modd cadw’r cynnydd mewn Treth Cyngor i lefel rhesymol. Mae pob awdurdod lleol yn gweld yn glir y trafferthion cynyddol mae aelwydydd yn eu cael i dalu Treth Cyngor, gan nad yw’r arian mae’r cynghorau yn eu derbyn gan y Llywodraeth yn ddigonol i ymdrin â’r pwysau. Gan fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i beidio cynyddu treth incwm, ymddengys fod y faich ariannol yn cael ei drosglwyddo i dalwyr Treth Cyngor.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Rydym yn credu fod rhoi o’r polisïau yn rhai hirdymor fydd yn cymryd amser i’w gwireddu, ond ar y cyfan mae nifer o fusnesau Gwynedd yn ei chael yn anodd ar hyn o bryd.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Mae nifer o’r ymyraethau angenrheidiol i fynd i’r afael a’r argyfwng hinsawdd am fod yn hynod gostus a thu hwnt i allu nifer o gyrff cyhoeddus i’w hariannu ar hyn o bryd.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Fel sydd wedi ei nodi uchod, credwn fod gormod o’r faich i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu trosglwyddo i dalwyr Treth Cyngor. Mae’r gyfran o wariant awdurdodau lleol sydd gorfod cael ei ariannu trwy Treth Cyngor wedi cynyddu’n sylweddol dros y 15 mlynedd ddiwethaf.
Hoffai'r Pwyllgor ganolbwyntio ar nifer o feysydd penodol eraill wrth graffu ar y Gyllideb. A oes gennych unrhyw sylwadau penodol o ran y meysydd a nodir isod?
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Mae ein hatebion i’r cwestiynau blaenorol yn cyflwyno safbwynt Cyngor Gwynedd ar y materion yr hoffem dynnu sylw’r Pwyllgor iddynt o ran yr angen i gynyddu Treth Cyngor. Nid yw nifer helaeth o'r rhai sydd yn dioddef yn gymwys am y Cynllun Cymorth Treth Cyngor.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Nid yw hyn yn amlwg yn y gyfundrefn bresennol.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Mwy o gymorth i awdurdodau lleol ymgymryd â gwaith ataliol.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Gweler sylwadau mewn ymateb i gwestiynau blaenorol.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Mae awdurdodau lleol mewn sefyllfa hynod fregus yn ariannol. Mae tystiolaeth sydd wedi ei gasglu yn flynyddol am y pwysau cynyddol, yn enwedig yn y maes gofal cymdeithasol, yn dangos fod y seilwaith yn gwanio o un flwyddyn i'r nesaf.